Ofnau wrth i gostau pyllau nofio 'saethu lan'

Mae yna ofnau y gallai hyd at 150 o byllau nofio ar draws Cymru orfod cau os na ddaw mwy o gymorth ariannol gan lywodraethau Cymru a'r DU.

Dyna rybudd Nofio Cymru, sy'n galw ar Lywodraeth y DU i gynnwys pyllau nofio yn eu Cynllun Cymorth Biliau Ynni, sy'n dod i rym ym mis Ebrill.

Yn ôl prif weithredwr Nofio Cymru, Fergus Feeney, mae'n hynod rwystredig nad yw pyllau nofio yn cael cymorth tebyg i amgueddfeydd a llyfrgelloedd.

Gan gydnabod bod cyfleusterau chwaraeon yn wynebu cynnydd mewn costau, dywedodd Llywodraeth y DU eu bod "wedi rhoi pecyn cymorth o £18bn i sefydliadau fel clybiau, pyllau, canolfannau hamdden, ysgolion, elusennau a busnesau drwy'r gaeaf".

Ond mae'r sefyllfa'n gur pen i reolwyr canolfannau ar draws Cymru, gan gynnwys Calon Tysul, Llandysul.