Ymddiswyddiad URC: 'Tawelu'r dyfroedd - am y tro'
"Mater o pryd, nid os" oedd ymddiswyddiad prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, wedi honiadau o anffafriaeth a chasineb at fenywod, medd sylwebydd rygbi blaenllaw.
Cyn-chwaraewr Cymru, Nigel Walker - y cyfarwyddwr perfformiad presennol -sydd wrth y llyw nes bydd URC yn penodi olynydd i Steve Phillips.
Roedd ei ymddiswyddiad yn anochel, meddai Gareth Charles, yn wyneb "pwysau cynyddol o bob math o gyfeiriadau" - a'r clybiau a'r rhanbarthau i chwaraewyr a noddwyr.
"Fi'n credu falle bod Steve Phillips wedi cymryd y cam i drial achub yr undeb, gan obeithio bydd y symudiad hyn nawr yn cadw'r bleiddiaid o'r drws falle, a rhoi bach o amser i bethe setlo," meddai.
Ond fe ychwanegodd nad dyma diwedd y mater "o bell ffordd".