Darlithydd yn 'gobeithio am gynnig gwell'
Mae degau o filoedd o staff Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU), gan gynnwys darlithwyr, gweinyddwyr, llyfrgellwyr a thechnegwyr wedi cymryd rhan yn y cyntaf o 18 diwrnod o weithredu ym mis Chwefror a mis Mawrth.
Mae staff yn streicio mewn 62 o brifysgolion, gan gynnwys Bangor, Caerdydd, Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, dros gyflog ac amodau gwaith yn ogystal â phensiynau.
Mae'r undeb yn gofyn am godiad cyflog gwerth naill ai'r mesur mynegai prisiau manwerthu (RPI) o chwyddiant neu 12% ac mae hefyd am ddod â'r defnydd o gytundebau dim oriau a chytundebau dros dro i ben.
Dywed Dr Sion Llewelyn Jones, sy'n aelod o undeb yr UCU yng Nghaerdydd, fod yna fomentwm i'r gweithredu a'i fod yn obeithiol y bydd y prifysgolion felly yn rhoi cynnig gwell iddynt o ran tâl ac amodau.