Gweithio yn y Wladfa yn 'bedwar mis bythgofiadwy'

Dywed y Cyngor Prydeinig ei hi'n anodd denu athrawon o Gymru i'r Wladfa ers y pandemig.

Mae'r cyngor wedi gweithredu cynllun ers dros 20 mlynedd i anfon tri o athrawon o Gymru i weithio mewn ysgolion yno.

Eleni maen nhw wedi gorfod hysbysebu eto am fod prinder ymgeiswyr addas.

I Beth Owen o Lannerch-y-medd, fuodd ar y cynllun y llynedd, roedd y cyfle'n "werthfawr dros ben".