'Dyw pobl awtistig ddim yn cael eu gwerthfawrogi'

Mae ymgyrchwyr wedi mynegi pryder bod canran isel y bobl awtistig sy'n cael eu cyflogi ar draws y DU yn "wastraff enfawr o dalent".

Er bod dros 50% o'r bobl yn y DU sy'n byw ag anableddau mewn gwaith, mae canran y bobl ag awtistiaeth sydd mewn swydd yn is na 22%.

Mae'r bwlch yn destun pryder i'r Gymdeithas Awtistiaeth sy'n dadlau bod unigolion awtistig "yn haeddu'r un cyfle â phawb arall i lwyddo yn eu gwaith a chyrraedd eu potensial llawn".

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cynnig sawl rhaglen i helpu, a'u bod wedi ymrwymo i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag awtistiaeth.

Yn ôl Nath Trevett, cyfieithydd rhan amser awtistig o Rondda Cynon Taf, mae gofyn am fwy o ymwybyddiaeth ymhlith aelodau panel wrth gyfweld ymgeiswyr awtistig ar gyfer swydd.