Ken Owens: Pythefnos ddiwethaf yn 'hawdd' i'r capten newydd
Bydd Ken Owens yn ennill cap rhif 87 pan fydd Cymru'n wynebu Iwerddon ddydd Sadwrn yng ngêm gyntaf pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Owens hefyd sy'n cael yr anrhydedd o fod yn gapten ar y tîm cenedlaethol.
Wrth gyhoeddi manylion ei garfan gyntaf ers dychwelyd i fod yn brif hyfforddwr Cymru, dywedodd Warren Gatland bod bachwr y Scarlets "yn boblogaidd iawn gyda'r chwaraewyr".
Ychwanegodd ei fod "yn Gymro angerddol" a bod chwarae dros Gymru yn "golygu llawer iddo".
Yn y cyfamser, dywedodd Owens fod profiad y chwaraewyr yn y garfan wedi gwneud y paratoadau yn "eitha' hawdd".
Dyma deimladau'r dyn ei hun ar drothwy'r ornest yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.