Streic: 'Ddim yn hapus â'r cynnig sydd wedi ei roi i ni'
Dyw'r cynnig o godiad cyflog gan Lywodraeth Cymru i weithwyr iechyd "ddim yn agos o bell ffordd" i'r hyn sydd ei angen, yn ôl un o aelodau undeb Unite.
Roedd Richard Harries, sy'n barafeddyg ac yn aelod o'r undeb, yn streicio ar linell biced yn Llanelli ddydd Llun.
Roedd undebau eraill, fel GMB a'r Coleg Nyrsio Brenhinol, wedi bwriadu streicio ddydd Llun ond fe benderfynon nhw ohirio tra'u bod yn ystyried cynnig newydd y llywodraeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig 3% o godiad cyflog ar ben swm o £1,400 sydd eisoes wedi ei addo.
Ond dywedodd undeb Unite y bydden nhw'n parhau â'u gweithredu gan ddisgrifio'r cynnig newydd fel "cwbl gynamserol".
"Nid dim ond bod ni'n streicio achos yr arian, ond yn hytrach i gael amodau gwell - gwell safon i'r cleifion," dywedodd Mr Harries.
"Ni ddim yn hapus â'r cynnig sydd wedi'u rhoi i ni ar hyn o bryd. A ni'n mwy na hapus i gefnogi Unite yn y mater."