Theatr Ieuenctid yr Urdd yn chwilio am actorion

Mae Urdd Gobaith Cymru'n chwilio am actorion ifanc i gymryd rhan yng nghynhyrchiad cyntaf ei Theatr Ieuenctid ers ei ailffurfio y llynedd.

Bu'n rhaid i'r fenter ddod i ben yn 2019, cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydden nhw'n rhoi £1m i'r mudiad dros bum mlynedd i'w ail-sefydlu.

Y bwriad yw cyflwyno cynhyrchiad newydd o'r sioe gerdd Deffro'r Gwanwyn yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ym mis Medi.

Bydd yna gyfleoedd felly ar gyfer actorion rhwng 16-25 oed, ac mae'r cwmni hefyd yn chwilio am fand byw a thîm o bobl ifanc i gynorthwyo gefn llwyfan o fis Ebrill.

Branwen Davies yw trefnydd Theatr Ieuenctid yr Urdd.