'Bore darlings!' Y Gymraeg i'w chlywed ar BBC Radio 2

Ar ddiwrnod nodi canmlwyddiant ers i'r Gymraeg gael ei chlywed ar y radio am y tro cyntaf, mae'r cyflwynydd Owain Wyn Evans wedi lansio ei sioe frecwast newydd ar Radio 2 o'r Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd.

Dyma'r sioe ddyddiol gyntaf ar yr orsaf i gael ei hymgartrefu y tu allan i Lundain.

Ei eiriau cyntaf oedd "Bore da, darlings. Croeso i Gaerdydd! Welcome to BBC Radio 2 live from Cardiff", cyn chwarae'r gân Stronger gan Britney Spears.

Fideo gan Rhys Huw Thomas