Lisa Gwilym yn derbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig gan Y Selar

Dyma'r foment y cafodd y gyflwynwraig Lisa Gwilym ei synnu yn fyw ar BBC Radio Cymru nos Fawrth, wrth gael ei chyflwyno gyda Gwobr Cyfraniad Arbennig gan Y Selar.

Cafodd y fraint ei chyhoeddi fel rhan o Wobrau'r Selar 2022, anrhydeddau blynyddol i ddathlu cerddoriaeth yng Nghymru.

Roedd y gwobrau'n cael eu cyhoeddi ar BBC Radio Cymru gan ddechrau nos Fawrth, a gyda Lisa Gwilym yn cyflwyno'r rhaglen, cafwyd cyhoeddiad annisgwyl ar yr awyr gan drefnydd y gwobrau, Owain Schiavone, mai hi oedd wedi ennill y Wobr Cyfraniad Arbennig.

Mae Lisa yn enw adnabyddus yn y sin gerddoriaeth Gymraeg, ac yn cyflwyno ar Radio Cymru a Radio Cymru 2 ers 20 mlynedd fis nesaf.

Bydd y cyhoeddiadau ar gyfer gweddill y gwobrau, sy'n cael eu rhoi gan dîm golygyddol Y Selar, yn parhau i gael eu cyhoeddi dros y dyddiau nesaf gan orffen ar raglen Tudur Owen ar 24 Chwefror.

Dyma enillwyr y Wobr Cyfraniad Oes yn y gorffennol:

2021 Tecwyn Ifan

2020 Gwenno

2019 Gruff Rhys

2018 Mark a Paul Roberts

2017 Heather Jones

2016 Geraint Jarman

2015 Datblygu