Nicola Sturgeon: 'Pwysig cydnabod pryd i symud ymlaen'
Mae Nicola Sturgeon wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel prif weinidog yr Alban ar ôl mwy nag wyth mlynedd wrth y llyw.
Gwnaeth arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) y cyhoeddiad mewn cynhadledd newyddion a gafodd ei threfnu'n frysiog yng Nghaeredin fore Mercher.
Ni fydd yn gadael ar unwaith, gan ganiatáu amser i olynydd gael ei ethol.
Yn ymateb i'r newyddion ar raglen Dros Ginio dywedodd cyn-brif weinidog Cymru, Carwyn Jones, ei bod yn allweddol i bob arweinydd gydnabod pryd mae hi'n amser symud 'mlaen.
Dywedodd hefyd ei bod hi "ddim yn glir o gwbl" beth yw'r ffordd ymlaen i arweinydd nesaf y blaid.