'Dim un ateb i bawb o ran gwella iechyd meddwl'

Mae ymchwil newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu bod bron i dri chwarter pobl Cymru (73%) yn mynd ati i gynnig cymorth i eraill er mwyn gwarchod a gwella eu hiechyd meddwl eu hunain.

Yn ôl ymatebion dros fil o bobl i holiadur ym mis Ionawr, mae 87% yn cymryd rhyw fath o gam i ofalu am eu hiechyd meddwl, gan gynnwys:

  • Cysylltu gyda phobl eraill (72%);

  • Neilltuo amser ar gyfer hobïau (72%);

  • Cysylltu â natur (68%);

  • Gwneud rhyw fath o ymarfer corff (67%).

Mae'r ymchwil hefyd yn awgrymu fod un o bob pump ohonon ni'n teimlo'n unig - naill ai'n aml neu drwy'r amser.

Yn ôl Dr Emily van de Venter, Ymgynghorydd Arweiniol Llesiant Meddyliol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae yna dystiolaeth bod pethau fel gwirfoddoli yn y gymuned neu helpu gymydog "yn ffordd effeithiol iawn o roi hwb i'ch hwyliau".

Ychwanegodd: "Gall rhoi gwên neu ddweud 'bore da' wrth bobl rydych yn eu gweld yn eich cymdogaeth godi eu calon a helpu i leihau teimladau o unigrwydd drwy roi ymdeimlad o gysylltiad."

Mae Lois Parri o Ben Llŷn wedi dioddef o gorbryder ac mae hi'n ymchwilio i'r maes iechyd meddwl yng Ngholeg King's yn Llundain.

"Mae beth sy'n helpu un person ddim am helpu'r person arall ella, felly mae'n bwysig mynd allan a thrio ffeindio beth sy'n helpu chdi," meddai.