Friedreich's Ataxia: 'Fi'n teimlo weithie nage fel hyn o'dd e fod'
Mae Lowri Harris, 37, yn byw gyda Friedreich's Ataxia, cyflwr genynnol prin sy'n effeithio ar rai o nerfau'r corff, ar ôl cael diagnosis yn ei hugeiniau cynnar.
Dywedodd ei bod hi wedi "galaru" rhywfaint am y bywyd roedd hi'n meddwl y byddai hi'n ei gael, a'i bod wedi bod "drwy gyfnodau eitha' tywyll".
Mae hi nawr wedi ymuno yn y galwadau am well cymorth yng Nghymru i bobl fel hi sy'n byw gyda chyflyrau prin, gan ddweud nad yw'r gefnogaeth yn ddigon da ar hyn o bryd.
"I fi, bydde' cael rhywun lleol, rhywun sy'n deall, rhywun profiadol - a nid jyst cwnselydd - rhywun sy'n fwy o genetic counsellor falle - bydde cymorth fel 'na yn amhrisiadwy," meddai.