Llai o fysiau'n gur pen ym Mlaenau Ffestiniog
Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal ym Mlaenau Ffestiniog nos Fawrth i glywed pryderon ynghylch dod â gwasanaeth bws allweddol i ben.
Cyhoeddodd darparwr y gwasanaeth - cwmni Llew Jones o Lanrwst - fis diwethaf bod y gwasanaeth T19, oedd yn cysylltu'r dref â Llandudno, yn dod i ben ar 11 Chwefror.
Mae'r cwmni'n dweud eu bod wedi ceisio cynnal y gwasanaeth ac mai ofer oedd eu ceisiadau am gymorth gan gyrff yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn siomedig, ond yn pwysleisio bod partneriaid yn ceisio cynnal cysylltiadau i gymunedau.
Doedd addewid o'r fath ddim yn ymddangos yn fawr o groeso fel y mae pethau'n sefyll i bobl yng nghanol Blaenau Ffestiniog.