BBC Cymru 100: Cofio'r fferi ceir dros yr Hafren
Yn gyw ohebydd, aeth Hywel Gwynfryn draw at lan yr Afon Hafren i ymweld â'r fferi a oedd yn cludo ceir dros y dŵr rhwng Cymru a Lloegr. Gyda phont newydd ar fin agor roedd ganddo gwestiynau i'w holi i sylfaenydd y gwasanaeth fferi, Mr Enoch Williams.
Cafodd llun o Bob Dylan ar y fferi ei ddefnyddio ar glawr albwm y ffilm ddogfen amdano, No Direction Home. Tynnwyd y llun yn 1966 wrth i Bob Dylan deithio o gig ym Mryste i Gaerdydd.
Agorwyd Pont Hafren yn 1966 gan y Frenhines Elizabeth II ac yna fe agorwyd yr ail bont (pont Tywysog Cymru) yn 1996.
Bu Hywel Gwynfryn yn sôn am y clip hwn ar raglen Bore Cothi.