Ymladd ymysg gwylwyr gêm rhwng Dinbych a Bangor 1876

Mae clybiau pêl-droed Dinbych a Bangor 1876 wedi dweud eu bod yn "siomedig" ar ôl i wylwyr ddechrau ymladd mewn gêm rhwng y ddau dîm nos Wener.

Fe ddigwyddodd yr ymladd wrth i'r gêm fynd yn ei blaen yn Ninbych, yng nghynghrair Ardal North West - trydedd haen pêl-droed yng Nghymru.

Wrth ddiolch i Heddlu Gogledd Cymru am eu hymateb, fe ddywedodd clwb Dinbych eu bod yn ymchwilio er mwyn sicrhau na fydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto yn y dyfodol.

Dywedon nhw "nad ydyn ni wedi cael trafferth o'r fath yn y gorffennol, a'i fod yn bendant ddim yn rhywbeth rydyn ni eisiau i ddigwydd eto".

Ychwanegodd clwb Bangor 1876 y byddan nhw'n cynnig pob cefnogaeth posib i Ddinbych i'w cefnogi yn eu hymchwiliad.

Mewn fideo o'r digwyddiad a gafodd ei roi ar gyfryngau cymdeithasol, mae'r heddlu i'w gweld yn gwahanu'r rheiny sy'n cymryd rhan yn yr ymladd.

Nid ydy Heddlu Gogledd Cymru wedi ymateb i gais am ragor o wybodaeth.

Dinbych oedd yn fuddugol o 1-0 ar y cae.

Fideo Robert Cunnah.