Aurora borealis i'w gweld 'ar sgwâr Tregaron o bobman'

Roedd Dafydd Wyn Morgan yn un o'r rheiny fu'n ddigon lwcus i weld Goleuadau'r Gogledd nos Sul - gan ddal llun ohonynt o fryn ger ei gartref yn Nhregaron.

Fel arfer dyw'r aurora borealis ddim yn cael eu gweld mor bell i'r de, ond fe wnaeth nifer o drigolion gogledd a chanolbarth Cymru lwyddo i'w gweld dros nos.

"O'n i'n gwybod fod amser yn mynd i fod yn brin achos mae'r rhain yn para 'chydig funudau ar y gorau," meddai Dafydd Wyn Morgan, wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru am y profiad.

"Ac o fewn saith munud roedd y cyfan wedi diflannu."