Effaith streiciau addysg ar ysgol yn Nyffryn Conwy
Mae athrawon yng Nghymru ar streic ddydd Iau am yr eildro wedi i undeb yr NEU wrthod cynnig cyflog newydd gan Lywodraeth Cymru.
Bydd miloedd o ddisgyblion yn gorfod aros adref a nifer o ysgolion yn cau yn sgil y gweithredu.
Yn Llanrwst, bydd Ysgol Dyffryn Conwy ar agor i flynyddoedd 7, 12 a 13 yn unig ddydd Iau oherwydd diffyg staff.
Mae llawer o waith addasu a chynllunio ymlaen llaw wedi gorfod digwydd yn yr ysgol, meddai'r pennaeth, Owain Gethin Davies.