BBC Cymru 100: Cofio Cân i Gymru 1971

Yn 1971 ac yn ei thrydedd blwyddyn fel cystadleuaeth, enw Cân i Gymru oedd Cân Disc a Dawn. Y flwyddyn honno enillodd Dewi 'Pws' Morris gyda'r gân Breuddwyd gydag Eleri Llwyd yn ei chanu. Derbyniodd wobr o £50. Erbyn heddiw, rydyn ni'n adnabod y gân yn well fel Nwy yn y Nen.

Ond wrth dyrchu drwy archif BBC Cymru fe ddaeth Hywel Gwynfryn a chriw Bore Cothi o hyd i'r gân a ddaeth yn ail.

Roedd Tyrd Adre'n Ôl yn cael ei chanu gan John Boote ac wedi'i chyfansoddi gan Alwyn Humphreys. Yn y clip hwn mae Alwyn Humphreys yn cael ei longyfarch gan Bennaeth Rhaglenni Ysgafn BBC Cymru ar y pryd, Meredydd 'Merêd' Evans.

Yn 1971 y caneuon yn y gystadleuaeth oedd:

  • Cymer Fi - Y Canolwyr (Eurof Williams)

  • Pan Ddaw E'n Ôl - Heather Jones (Karen Shelby a Gabe Edwards)

  • Breuddwyd - Eleri Llwyd (Dewi 'Pws' Morris)

  • Rhed - Y Diliau (Tom Roberts)

  • Cân y Losin Du - Pete Griffiths a Sian Edwards

  • Tyrd Adre'n Ôl - John Boote (Alwyn Humphreys)

Huw Jones oedd yn cyflwyno'r rhaglen a'r beirniaid oedd Roy Roberts (gynt o'r Western Mail a rŵan yn cynhyrchu Good Morning Wales), Yvonne Davies (Cylchgrawn Asbri), Huw Evans (colofnau pop y Carmarthen Times), Eirian Hopcyn (Cylchgronnau'r Urdd) a Wil Owen (cyfrifol am lunio'r deg uchaf yn Y Cymro a thudalen bop y cylchgrawn).

Gwrandewch ar Hywel Gwynfryn yn sôn mwy am y clip ar Bore Cothi.