Cipio Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 'hollol annisgwyl'

Roedd dod i'r brig yng nghystadleuaeth Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2022 yn "hollol annisgwyl", meddai'r enillydd wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Llun.

Fe berfformiodd Mali Elwy gyfres o fonologau yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth nos Sul.

Roedd chwech yn cystadlu ar ôl cael eu dewis fel y rhai mwyaf addawol yn y categori hŷn (o dan 25 oed) wrth gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.

Fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth fe gafodd y chwech ddosbarthiadau meistr unigol gan fenter profiadol, a dywedodd Mali bod yr elfen honno wedi bod yn "amhrisiadwy".