Canser: 'Mae'n teimlo fel bod fy mywyd i ar ben'
Mae un elusen wedi dweud bod "argyfwng canser yng Nghymru" sy'n effeithio ar gleifion a'u teuluoedd, ac wedi galw am wneud mwy i gwrdd â'r targedau aros.
Un claf sy'n credu y gallai pethau fod wedi bod yn wahanol petai wedi cael ei weld yn gynt ydy Martin Williams, 58, o Ynys Môn.
Ar ôl darganfod lwmp ar ei wddf fis Mawrth y llynedd, cafodd lythyr yn dweud bod rhestr aros o 40 wythnos.
Hyd yn oed wedi i'w feddyg teulu gymryd biopsi, roedd hi'n wyth wythnos cyn i'r canlyniad ddod yn ôl ac roedd yn dal i ddisgwyl i gael ei weld ym mis Medi.
"Heb ddim math o driniaeth, yn cael prognosis o i fyny at flwyddyn - toedd o ddim be' o'n i'n ddisgwyl glywed," meddai. "Waeth chi dd'eud, mae'n teimlo fel bod fy mywyd i ar ben.