BBC Cymru 100: WR Evans yn diddanu ar Cawl a Chân yn 1977

Seren clip archif Bore Cothi yr wythnos hon yw'r bardd William Rees Evans, neu WR Evans.

Un o Fynachlog Ddu, Sir Benfro oedd o'n wreiddiol, ond fe fu'n byw ym Mwlchygroes a'r Barri am sbel cyn dychwelyd yn ôl i Sir Benfro. Mae cofeb iddo ger ei gartre yng Nglynsaithmaen.

Fe sefydlodd y grŵp Bois y Frenni yn 1940 er mwyn cynnig adloniant yn lleol yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac mi roedd yn cyfansoddi caneuon ysgafn ar eu cyfer.

Dyma fo'n diddanu cynulleidfa yn Sir Benfro nôl ym mis Mawrth 1977 ar y rhaglen Cawl a Chân a oedd yn cael ei chyflwyno gan Glan Davies.

Hywel Gwynfryn fu'n siarad am y clip ar raglen Bore Cothi.