Llyfr Noel Thomas: 'Ffordd i gael fy stori allan'
"Mae o wedi bod yna am flynyddoedd... dwi di cadw lot i fi'n hun ond mae'n ffordd i gael o allan rŵan."
Mae llyfr 'Llythyr Noel' yn ffrwyth llafur bron i flwyddyn o gyfarfodydd rheolaidd rhwng Noel Thomas, aelodau o'i deulu a'r awdur Aled Gwyn Job.
Carcharwyd y cyn-gynghorydd sir yn 2006 am gadw cyfrifon ffug yn Swyddfa'r Post Gaerwen.
Ond darganfuwyd yn ddiweddarach ei fod wedi cael ei garcharu ar gam oherwydd nam yn system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post, Horizon.
Bellach wedi cael y cyfle i nodi ei atgofion yn llyfr ei hun, dywedodd Noel Thomas bod adrodd ei hanes yn "cyflawni lot" wrth iddo barhau i brosesu'r 17 mlynedd diwethaf.