Ffrwydrad nwy yn achosi dinistr yn Abertawe

Mae'r heddlu wedi dod o hyd i gorff dyn ar ôl ffrwydrad yn Abertawe fore Llun.

Roedd un person ar goll a thri o bobl wedi eu cymryd i'r ysbyty yn dilyn ffrwydrad nwy yn ardal Treforys am tua 11:20.

Mae Heddlu'r De bellach wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gorff y dyn a oedd ar goll. Mae ei deulu wedi cael gwybod.

Mae lluniau o'r digwyddiad yn dangos fod un tŷ wedi dymchwel yn llwyr, a difrod sylweddol i sawl tŷ arall.

Dilynwch y diweddaraf yma.