Golygfeydd dychrynllyd wedi ffrwydrad Treforys

Mae un person ar goll a thri o bobl wedi eu cymryd i'r ysbyty ar ôl ffrwydrad yn Abertawe fore Llun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiadau o ffrwydrad nwy yn ardal Treforys am tua 11:20.

Mae lluniau o'r digwyddiad yn dangos fod un tŷ wedi dymchwel yn llwyr, a difrod sylweddol i sawl tŷ arall.

Fideo gan Alamgir Hossain.

Dilynwch y diweddaraf yma.