Beth fydd Cyllideb Mawrth 2023 yn ei olygu i chi?
Mae Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi cyllideb i "dyfu'r economi" a chael pobl "yn ôl i'r gwaith".
Dywedodd Jeremy Hunt y bydd ei gynlluniau yn "haneru chwyddiant, tyfu'r economi a gostwng y ddyled".
Yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw, mae'r Canghellor wedi cadarnhau y bydd y cymorth presennol ar gostau ynni yn parhau tan fis Mehefin.
Bydd £180m ychwanegol i Lywodraeth Cymru drwy gyllid canlyniadol ac £20m i adfer Morglawdd Caergybi.
Huw Thomas, Gohebydd Busnes BBC Cymru, sy'n ein harwain drwy arwyddocâd y Gyllideb.