Adran frys Ysbyty Glangwili 'dan bwysau syfrdanol'

Mae arolygwyr wedi disgrifio'r pwysau "syfrdanol" o fewn adran frys un o ysbytai'r gorllewin yn ystod ymweliad dirybudd fis Rhagfyr y llynedd.

Yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) nid oedd cleifion yn Adran Frys Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, o hyd yn derbyn gofal diogel cyson, er gwaethaf ymdrechion gorau aelodau staff.

Mae'r adroddiad yn nodi gorlenwi, amseroedd aros hir a diffyg gwybodaeth gyson i gleifion.

Roedd yna hefyd ddiffyg adnoddau tŷ bach ac ymolchi, oedd yn amharu ar "urddas a pharch a phrofiad" cleifion, ac fe welodd arolygwyr bobl yn cysgu mewn cadeiriau neu ar y llawr.

Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda bod yna gynllun gwelliannau i fynd i'r afael â "heriau sylweddol o fewn yr adran" a bod ysbytai'r GIG ar draws Cymru a'r DU yn wynebu'r un trafferthion.

Dywedodd Dr Rhys Jones, pennaeth uwchgyfeirio a gorfodaeth AGIC, fod staff yn "gweithio'n hynod o galed", ond fod y pwysau ar yr adran yn amharu ar eu gallu i ddarparu gofal o'r safon maen nhw eisiau ei ddarparu.