Rhyddhau hanner miliwn o glipiau archif yn ddigidol

Bydd dros hanner miliwn o glipiau yn cael eu cyhoeddi yn ddigidol fel rhan o'r Ganolfan Archif Ddarlledu newydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, sy'n cael ei disgrifio fel "cofnod clywedol o Hanes Cymru".

Dyma'r tro cyntaf i'r cyhoedd gael mynediad i 100 mlynedd o hanes darlledu Cymru.

Mae'r archif yn rhoi mynediad cyhoeddus i raglenni gan BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, ac S4C.

Bydd modd gwylio clipiau o amryw o raglenni gwahanol, fel yr un yma o Cefn Gwlad o 1987, pan oedd y diweddar Dai Jones, Llanilar yn dringo i ben Melin Llynon ar Ynys Môn ac yntau ofn uchder.