Carcharu dyn 69 oed am daro gyrrwr beic modur â'i gar

Mae dyn 69 oed a oedd yn erlid beiciwr modur cyn ei daro oddi ar ei feic wedi ei garcharu am wyth mis.

Plediodd Graham Robinson, o Ffordd y Foryd, Bae Cinmel, yn euog i yrru'n beryglus a rhwystro'r heddlu wedi i'r digwyddiad gael ei ffilmio ar ei gamera cerbyd ei hun.

Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd a phedwar mis a bydd yn rhaid iddo gymryd ail brawf gyrru estynedig.

Er i Robinson ddweud celwydd wrth yr heddlu fod ei gamera wedi torri, dangosodd y fideo iddo gyrraedd 50mya ar hyd strydoedd ac yna 40mya ar drac cul iawn lle y bu mewn gwrthdrawiad â'r beiciwr modur.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon sut, ar brynhawn 5 Awst y llynedd, fod dynes yn ystafell flaen ei byngalo pan glywodd "glec ofnadwy" y tu allan.

Roedd ei gardd mewn anhrefn, y ffens wedi torri, car glas yng nghanol llystyfiant a beic modur ar y llawr.

Funudau ynghynt roedd Robinson wedi bod yn croesi'r bont o'r Rhyl i Fae Cinmel, lle'r oedd Liam Guest y tu ôl iddo ar feic modur mewn traffig araf.

"Mae amheuaeth ynghylch yr union beth a ddigwyddodd nesaf," clywodd y llys.

Dywedodd yr erlyniad fod y diffynnydd wedi gweiddi: "Dwi'n mynd i dy daro di oddi ar dy feic."

Ar ran yr amddiffyn, dywedodd Simon Killeen fod Robinson yn byw gyda'i wraig a'i fod o dan straen oherwydd ei salwch ar y pryd.

Honnodd Robinson fod Mr Guest wedi taro drych adain ei gar ond wnaeth y diffynnydd y penderfyniad "gwarthus" i fynd ar ei ôl wedi hynny, ychwanegodd Mr Killeen.

Dywedodd y Barnwr Petts fod Robinson wedi ymateb "mewn ffordd hynod anghymesur" wrth yrru ar ôl y beic, gan groesi llinellau yng nghanol y ffordd a chyrraedd hyd at 50mya, a dod yn agos y tu ôl i'r beiciwr modur.

Dywed fod "bron i £3,000 o ddifrod" wedi'i achosi i'r ffens.

"Mae'n hynod beryglus i unrhyw un ddefnyddio eu car fel arf fel yr oeddech chi'n ei wneud," meddai'r Barnwr.

"Roeddech chi'n gyrru allan o reolaeth yn llwyr."