Ffoadur o Affganistan yn canu mewn Eisteddfod Gylch yr Urdd
Flwyddyn a hanner yn ôl cafodd cannoedd o ffoaduriaid o Affganistan eu croesawu i Gymru, wedi i'r Taliban gymryd rheolaeth o'r wlad.
Cafodd llawer gynnig llety dros dro mewn gwersyll yr Urdd - a nawr mae un o'r merched fu'n aros yno wedi bod yn cystadlu mewn eisteddfod gylch dros y penwythnos.
Cafodd y clip ei rannu gan brif weithredwr yr Urdd, Sian Lewis, a ddywedodd bod y ferch a'i theulu wedi gorfod gadael eu mamwlad 19 mis yn ôl.
"Am bum mis, gyda 112 o ffoaduriaid eraill, fe arhoson nhw yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd," meddai.
"Ac ar ôl gadael, cofrestru eu plant mewn Addysg Gymraeg."
Mewn datganiad wedi ei ddarparu gan yr Urdd dywedodd rhieni Nargis, sy'n wyth oed: "Rydyn ni mor hapus fod ein plant wedi cael cyfle i ddysgu Cymraeg a chael addysg Gymraeg.
"Roedden ni hefyd mor falch o Nargis yn canu ar ei phen ei hun, ac hefyd gyda chôr yr ysgol yn yr Eisteddfod ddoe.
"Ers i ni gyrraedd Cymru rydyn ni wedi cael cymaint o groeso gan bobl Cymru, ac mae'r Urdd wedi bod yn gymorth mawr i ni.
"Cymru yw ein gwlad ni nawr ac rydyn ni eisiau bod yn rhan o ddiwylliant Cymru."