Dinistr wedi ffrwydrad Treforys 'fel set ffilm'

Roedd y difrod ar safle ffrwydrad a laddodd un ac anafodd dri yn Nhreforys, Abertawe yn ofnadwy, yn ôl tîm o barafeddygon sy'n ymateb i argyfyngau peryglus.

Roedd Gareth Denman yn aelod o Dîm Ymateb Lleoliad Peryglus y gwasanaeth ambiwlans ar y safle ar 13 Mawrth.

Er y perygl, dywedodd fod "teimlad o falchder" wrth helpu pobl sy'n wynebu sefyllfaoedd erchyll.

Digwydd bod, roedd gan y tîm un o gamerâu BBC Cymru wrth iddyn nhw ymateb i'r argyfwng yn Nhreforys.