'O'n i'n alcoholig rhonc' tra'n gweithio fel heddwas
Mae cyn-blismon sy'n dweud y bu'n "alcoholig rhonc" tra'n gwasanaethu gyda Heddlu'r Gogledd wedi siarad am y tro cyntaf am ei frwydr gyda goryfed.
Mewn cyfweliad di-flewyn-ar-dafod, mae Eurwyn Thomas yn disgrifio sut iddo "ddisgyn drwy'r cracs am flynyddoedd" ac yn honni diffyg cefnogaeth yn y gweithle.
Wrth siarad gyda Cymru Fyw dywedodd: "'Nôl yn 2019 pan rois i'r gorau iddi, dwni'm sut 'swn i'n disgrifio'r help oedd ar gael - lot o lefydd, posteri ar y wal ac yn y blaen, ond mae siarad yn rhad.
"O safbwynt cymorth real, dwni'm be' oedd ar gael i mi."
Mewn ymateb dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod "yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau bod llesiant [staff yn] gwella".
Ychwanegon nhw fod "lles ein swyddogion yn flaenoriaeth i'r gwasanaeth".
Mae arolwg diweddar gan Ffederasiwn yr Heddlu yn datgelu bod 76% o swyddogion rheng flaen yn dweud bod effaith y gwaith ar eu hiechyd meddwl yn rheswm dros ystyried gadael y swydd.