Tanwariant £155m y llywodraeth yn 'fethiant llwyr'
Mae adroddiad beirniadol gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd wedi codi pryderon difrifol am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwario arian ac yn rheoli rhai o uwch swyddogion.
Fe ddarganfuwyd fod camreoli cyfrifon cyhoeddus wedi costio £155.5m i Gymru yn ystod y pandemig.
Oherwydd methiant i wario'r arian erbyn Mawrth 2021 bu'n rhaid iddyn nhw ei roi yn ôl i Lywodraeth y DU.
Dywed Llywodraeth Cymru fod y Trysorlys wedi ymddwyn yn "annerbyniol" wrth wrthod gadael i'r arian aros yng Nghymru, ond mae Llywodraeth y DU wedi amddiffyn y penderfyniad.
Ond yn ôl un aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Mabon ap Gwynfor, mae "methiant llwyr" y llywodraeth yn codi "cwestiwn dyrys".
"Dw'n siŵr fod pawb yn ymwybodol o brosiectau cymunedol allan yno yng Nghymru fysa wedi dymuno cael gwariant ychwanegol yn y flwyddyn honno, a pam mae'r llywodraeth wedi methu a gwario ein harian ni... mae'n gwestiwn dyrys," meddai ar Dros Frecwast fore Llun.