2 Sisters: 'Does 'na'm llawer o'm byd ar yr ynys'
Mae ffatri brosesu dofednod ym Môn yn cau ei giatiau am y tro olaf ddydd Gwener, gyda dros 700 o swyddi'n cael eu colli.
Mae'r ffatri yn Llangefni wedi bod ar agor ers dros hanner canrif, ond cyhoeddodd cwmni 2 Sisters fis Ionawr eu bwriad i gau y safle.
Er i dasglu gael ei sefydlu er mwyn ceisio ei hachub, daeth cadarnhad yn ddiweddarach y byddai'r ffatri yn cau ddiwedd Mawrth.
Einion Parry Williams a Des Williams fu'n rhannu eu hargraffiadau cyn i'r ffatri gau am y tro olaf.