Beth mae annibyniaeth yn ei olygu i chi?

  • Cyhoeddwyd
Neil McGuffFfynhonnell y llun, Neil McGuff
Disgrifiad o’r llun,

'Misfit'

O jigso heb ei orffen i ddraig mewn cawell, mae'r casgliad ffotograffig cyntaf yn y byd am annibyniaeth yn dangos amrywiaeth o luniau trawiadol.

Mae'r casgliad i'w weld ar Bandstand Aberystwyth rhwng 13 a 15 Ebrill ac yn archwilio sut mae profiadau bywyd pobl yn effeithio ar eu hagweddau at annibyniaeth yng Nghatalwnia, Cymru, a'r Alban.

Mae'r arddangosfa, Pen Rheswm/Gwrando'r Galon: Darlunio Dyfodol Cymru, dan ofal Dr Anwen Elias a Dr Elin Royles o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth, ac yn defnyddio ffotograffiaeth i gael dealltwriaeth well o agweddau a theimladau pobl am annibyniaeth yn y tair gwlad.

Dywedodd Dr Elin Royles: "Rydym yn gweithio yng Nghymru, Catalwnia a'r Alban i ddatblygu dull newydd sbon o ymchwilio i 'annibyniaeth'.

"Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith ymchwil blaenorol wedi canolbwyntio'n gyfan gwbl ar ymatebion i arolygon ac i ddemograffeg, megis oedran, rhyw, dosbarth cymdeithasol ac incwm, ond ry'n ni'n cloddio'n ddyfnach ac â diddordeb mewn dysgu sut y gallwn esbonio ffordd mae pobl yn meddwl ac yn teimlo am ddyfodol cyfansoddiadol eu gwledydd.

"Ni yw'r cyntaf yn y byd i ddefnyddio'r ddull yma a dylai ychwanegu lliw a chysgod at yr hyn sy'n hysbys hyd yma am farn pobl mewn perthynas ag annibyniaeth. Yn bwysicaf oll, gall arwain at drafodaeth fwy cynnil, yn enwedig yng Nghatalwnia a'r Alban, lle mae'r dadlau'n ddwys ac wedi'i begynnu ymhlith pleidiau gwleidyddol a'r cyfryngau."

Mae'r arddangosfa gyntaf yn Aberystwyth, gydag arddangosfeydd o'r casgliad hefyd ar y gweill yn Barcelona a Chaeredin.

Dyma ddetholiad o'r lluniau ynghyd a disgrifiad o'r syniadau wnaeth ysbarduno'r ffotograffwyr:

Ffynhonnell y llun, Adrian Price
Disgrifiad o’r llun,

'Cognitive dissonance'

Ffotograffydd: Adrian Price

'Adlewyrchu bod ag agweddau a syniadau gwahanol tuag at annibyniaeth ar yr un pryd a newid barn yn gyson.'

Ffynhonnell y llun, Àgueda Grael

Ffotograffydd: Àgueda Grael

'Ry'n ni fel Catalanwyr weithiau wedi ein trin fel pypedau. Mae rhai fel gwleidyddion yn chwarae gyda theimladau pobl, eu synnwyr o hunaniaeth a dydi hyn ddim yn deg.'

Ffynhonnell y llun, Anna Martin Rauret

Ffotograffydd: Anna Martin Rauret

'Teimladau o syndod, rhwystredigaeth a thristwch sydd tu ôl i'r llun wrth i'r rhai wrth y blwch pleidleisio weld yr heddlu yn atal pleidleisio yn refferendwm Catalwnia, Hydref 2017. Bellach, bod yn siomedig ydi'r prif ymateb wrth gofio'r dydd.'

Ffynhonnell y llun, Cole Whitelaw
Disgrifiad o’r llun,

'Road'

Ffotograffydd: Cole Whitelaw

'Mae'r delweddau yn ffug gan ddefnyddio Photoshop er mwyn cyfleu sut allai'r cyfryngau ymdrin â'r cyhoedd drwy drafod annibyniaeth fel rhywbeth hynod ddadleuol a pheryglus.'

Ffynhonnell y llun, Lonnie Morris
Disgrifiad o’r llun,

'Dragon in a cage'

Ffotograffydd: Lonnie Morris

'Mae cyfyngiadau ar allu Cymru i wireddu'r hyn mae eisiau ei wneud. Gallai annibyniaeth arwain at lunio a gweithredu ei benderfyniadau ei hun.'

Ffynhonnell y llun, Sonny McLeod

Ffotograffydd: Sonny McLeod

'Byddai annibyniaeth yn rhoi diwedd ar undeb o bedair gwlad yn dod ynghyd a'r budd o ran amrywiaeth safbwyntiau a diwylliannau.'

Ffynhonnell y llun, Neil McGuff
Disgrifiad o’r llun,

'Misfit'

Ffotograffydd: Neil McGuff

'Beth yw ystyr bod yn wlad annibynnol? Mae pob cenedl yn wahanol, ond mae nhw i gyd wedi'u cyd-gysylltu ac yn ddibynnol ar ei gilydd mewn gwahanol ffyrdd.'

Pynciau cysylltiedig