Chwe Gwlad: Gêm Cymru v Lloegr yn dod 'â dŵr i'r dannedd'

Mae prif hyfforddwr menywod rygbi Cymru yn dweud fod y gêm yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn yn dod "â dŵr i'r dannedd".

Mae'r ddwy wlad yn ddi-guro yn y bencampwriaeth hyd yma, ac mae Ioan Cunningham yn hyderus y bydd Cymru yn rhoi her i'r ymwelwyr yng Nghaerdydd, er mai Lloegr fydd y ffefrynnau.