Cymru v Lloegr: Dau gyn-ddisgybl Dyffryn Aman yn mynd benben

Bydd Cymru'n croesawu Lloegr i Barc yr Arfau ddydd Sadwrn, wrth i'r ddau dîm lygadu Coron Driphlyg.

Dim ond dwywaith yn eu hanes mae merched Cymru wedi trechu Lloegr, ond ar ôl ennill eu dwy gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad mae'r garfan yn llawn hyder.

Lloegr yw'r ffefrynnau - nhw sydd ar frig rhestr detholion y byd - ac yn rhan o'u carfan nhw mae'r mewnwr Lucy Packer, gafodd ei geni ym Mrynaman.

Mae hi wedi cynrychioli tîm saith-bob-ochr Cymru, cyn penderfynu cynrychioli Lloegr gan ei bod yn gymwys i chwarae iddyn nhw hefyd.

Bydd hi benben yn erbyn un o'i chyd-ddisgybion yn Ysgol Dyffryn Amman bnawn fory - capten Cymru Hannah Jones.

Janet Ebenezer fu'n clywed hanes y ddwy ar gyfer Newyddion S4C.