Plaid Cymru: 'Tryloywder yn bwysig' ar fesurau arbennig Betsi

Mae'r prif weinidog Mark Drakeford yn wynebu cyhuddiadau ei fod wedi camarwain y Senedd dros sylwadau a wnaeth am fwrdd iechyd y gogledd.

Dywedodd Mr Drakeford wrth y Senedd ym mis Chwefror bod y corff sy'n arolygu gwariant cyhoeddus - Archwilio Cymru - wedi dweud y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddod allan o fesurau arbennig yn 2020.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Rhun ap Iorwerth, wedi gofyn iddo gywiro'r cofnod hwnnw, wedi i Archwilio Cymru ddweud na wnaeth eu swyddogion nhw roi cyngor o'r fath.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod Mr Drakeford wedi bod yn "glir" yn y Senedd.