Cwac pac! Yr hwyaid sy'n rhydd wedi rheolau ffliw adar

Mae Meirion Owen o Lanarthne, Sir Gaerfyrddin yn cadw hwyaid - neu ei 'Cwac Pac', fel mae'n eu galw.

Mae hefyd wedi hyfforddi ci defaid i'w corlannu, ac mae'r Cwac Pac yn cymryd rhan mewn sioeau a digwyddiadau i ddangos eu doniau.

Wrth i fesurau gorfodol cadw dofednod ac adar caeth dan do ddod i ben ledled Cymru felly, mae'n falch o weld yr hwyaid allan yn yr awyr agored eto - ac hefyd yn cefnogi'r alwad am frechlyn.

"Bob cyfle, pan chi'n mynd mewn i'r sied, agor y drws, mae'r hwyaid yn moyn mynd allan yn syth," dywedodd.

"Mae e'n hyfryd mewn un ffordd bo nhw'n gallu mynd allan, ond eto, mae'n rhaid cadw llygad yn fanwl achos dyw'r clefyd ddim wedi mynd wrthon ni.

"Rwy'n credu falle bod rhaid edrych i fewn, a ydyn ni'n brechu'r anifeiliaid yma? Wrth symud ymlaen, mae'n rhaid edrych ar ryw ffordd allan o hwn."