'Saith mlynedd hapus o weithio yn Antur Waunfawr'
Yn ei gyllideb fis diwethaf, fe amlinellodd y Canghellor, Jeremy Hunt, gamau i wneud hi'n haws i bobl ag anableddau sicrhau gwaith.
Mae'r cynlluniau wedi cael eu croesawu gan elusennau, er bod rhai'n teimlo y gallai'r canghellor fod wedi mynd yn llawer pellach.
Mae'n bryder bod pobl yn dal yn wynebu rhwystrau, gan gynnwys diffyg dealltwriaeth ynghylch pa fath o gymorth sydd angen ei ddarparu wrth gyflogi person ag anabledd.
Ymhlith y ffactorau eraill mae problemau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yng nghefn gwlad neu du hwnt i oriau'r swyddfa, a diffyg cyfleoedd gwaith sy'n talu cyflogau arbennig o dda.
Ers 1984, mae elusen Antur Waunfawr yn darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu, gan eu galluogi i ddysgu sgiliau gwerthfawr a chyfrannu i'w cymuned.