Y dyn ifanc o Flaenau Ffestiniog sy'n breuddwydio am fod yn DJ

Ar raglen Drych ar S4C nos Sul bydd cyfle i ddod i adnabod dyn ifanc ysbrydoledig o Danygrisiau yng Ngwynedd.

Mae Terry Tuffrey yn 22 oed ac mae ganddo anawsterau dysgu cymedrol.

Ei freuddwyd yw bod yn DJ, a dros y flwyddyn ddiwethaf mae camerâu Cwmni Da wedi bod yn ei ddilyn wrth iddo raddio a mynd amdani i geisio gwireddu ei freuddwyd.