Beiciau rhithwir yn dod yn ôl ag atgofion melys

Gyda'i thraed ar y pedalau a'i llygaid ar y sgrin, mae Norma Deaves yn ailymweld â bro ei mebyd, Biwmares. 

Yn 91 oed, mae hi wedi neidio ar y cyfle i lywio beic rhithwir sydd wedi cael ei osod yn ei chartref presennol yn Llangefni.

Wrth i ddelweddau Google o'r dref hanesyddol ymddangos o'i blaen, daw llu o atgofion i'w meddwl.

Procio cof pobl hŷn ydy prif bwrpas y fenter, ond mae'n pontio'r cenedlaethau hefyd gyda'r beiciau wedi eu haddasu gan ddisgyblion o Ysgol David Hughes, Porthaethwy, mewn her undydd.