BBC Cymru 100: Adeiladu tŷ unnos

Dewis diweddaraf Hywel Gwynfryn o archif BBC Cymru yw'r clip arbennig hwn gyda rhai o lenorion amlycaf yr ugeinfed ganrif a hen draddodiad.

Yn 1963 fe aeth T Llew Jones i bentref Ffair Rhos ar odrau'r Pumlumon i weld prosiect yr oedd y bardd WJ Gruffydd yn mynd ati i'w gyflawni. Nod y bardd a'i ffrindiau oedd atgoffa pobl o'r hen draddodiad gwledig. Mae T Llew Jones yn holi Mrs Jane Williams, hefyd o Ffair Rhos, o'i hatgofion hi o dŷ unnos yn cael ei godi.

Gallwch glywed Hywel yn sôn am y clipiau hyn bob dydd Iau ar Bore Cothi ar BBC Radio Cymru rhwng 11:00 ac 13:00.