Costau sioeau 'wedi mynd lan yn eithriadol'

Mae trefnwyr sioeau amaethyddol yn rhybuddio eu bod yn wynebu tymor "heriol tu hwnt" o ganlyniad i gostau uwch, prinder cyflenwyr a chystadleuwyr.

Drwy Gymru, mae 'na dros 150 o sioeau gwledig ac amaethyddol yn cael eu cynnal yn flynyddol, ond mae sawl digwyddiad wedi ymbil ar y cyhoedd i sicrhau eu bod yn mynychu eu sioe leol eleni.

Mae Sioe Aberystwyth wedi bod yn rhedeg ers 75 mlynedd ond mae Emlyn Jones, cadeirydd y sioe, yn dweud bod costau cynyddol yn achosi pryder am y dyfodol.

Ond mae'n gobeithio y bydd mwy yn cael eu denu i ymweld eleni gyda mynediad i blant nawr am ddim a bysiau am ddim ar gael i gludo pobl o'r dre.