AS yn croesawu ymchwiliad i honiadau o fwlio yn S4C

Mae cwmni cyfreithiol yn ymchwilio i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn" o fewn S4C.

Cafodd hynny ei gyhoeddi gan gadeirydd y sianel, Rhodri Williams ar ôl i raglen Newyddion S4C dderbyn llythyr gan gyfrif e-bost anhysbys.

Roedd yr e-bost yn honni bod staff sy'n gweithio i'r sianel yn cael eu hanwybyddu a'u tanseilio gan y tîm rheoli ac "yn aml yn eu dagrau".

Ychwanegodd Mr Williams fod cwmni cyfreithiol Capital Law am arwain ymchwiliad annibynnol llawn i bryderon a chwynion gweithwyr.

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Tom Giffard, llefarydd y Ceidwadwyr ar ddiwylliant yn y Senedd ym Mae Caerdydd, mai'r "peth mwyaf i fi oedd bod staff yn dweud eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n methu siarad allan, ac mae hynny'n broblem".

"Mae pethau'n mynd o'i le mewn sawl man gwaith... ond mae'n bwysig fod proses yn ei lle i staff gael siarad am yr hyn sy'n eu poeni.

"Rwy'n croesawu'r ffaith fod ymchwiliad wedi dechrau... i gael staff ar bob lefel i gyfrannu i'r ymchwiliad, yn ogystal â chyn-aelodau o staff. Mi welson ni gyda'r ymchwiliad i Undeb Rygbi Cymru pa mor bwysig oedd hi i gael barn cyn-aelodau.

"Be sy'n bwysig ydy fod pobl yn gallu riportio problemau a bod staff yn teimlo fod pethau yn newid o ganlyniad."