Dyma Magi - sydd wedi enwi Pont Bodefail

Mae pont newydd sy'n cysylltu ardal Pwllheli gyda rhannau pwysig o Ben Llŷn wedi agor yn swyddogol.

Fe gaeodd Pont Bodfal yn 2019 yn dilyn difrod sylweddol ar ôl i storm ansefydlogi sylfeini'r bont, a oedd yn cysylltu ardal Efailnewydd a Boduan.

Bedair blynedd yn ddiweddarach, wedi buddsoddiad o fwy na £1.2m, mae pont newydd wedi ei hagor i draffig unwaith eto.

Magi, sy'n ddisgybl yn yr ysgol leol, wnaeth feddwl am enw newydd i'r bont.