Dadorchuddio cerflun Jimmy Murphy tu allan i Old Trafford
Cafodd cerflun o'r Cymro Jimmy Murphy ei ddadorchuddio tu allan i stadiwm Manchester United ddydd Mercher.
Murphy, o Gwm Rhondda, oedd is-reolwr y clwb pan fu farw wyth o chwaraewyr a thri aelod o staff mewn damwain awyren yn Munich, Yr Almaen, yn 1958.
Roedd hefyd yn rheolwr ar Gymru ar y pryd, a dyna pam nad oedd ar yr awyren y diwrnod hwnnw - am ei fod gyda'r tîm cenedlaethol yng Nghaerdydd.
Ef gymrodd yr awenau fel rheolwr Manchester United dros dro am i Matt Busby gael ei anafu yn y digwyddiad, ac ef sy'n cael ei ystyried yn gyfrifol am ailadeiladu'r clwb.
Bu'n aelod o staff yno o ddiwedd y 1940au tan ei farwolaeth yn 1989, ac ef hefyd oedd rheolwr Cymru yng Nghwpan y Byd 1958.
Dywedodd pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes, y bu'n brofiad "emosiynol iawn" bod yn y dadorchuddiad ddydd Mercher.