Beth yw barn etholwyr ar ddyfodol Adam Price?

Mae'n ymddangos fod dyfodol arweinydd Plaid Cymru yn y fantol, gyda chorff rheoli'r blaid yn cyfarfod nos Fercher.

Bydd pwyllgor gwaith cenedlaethol Plaid Cymru yn cyfarfod am 20:00 nos Fercher.

Ond fyddai etholwyr Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn hapus ynteu'n drist i weld eu Haelod o'r Senedd yn ildio'r awenau fel arweinydd y blaid?

Dyma farn rhai o drigolion Rhydaman ar y mater.