Alun Lenny: Rhai 'heb fod yn gefnogol ers tro byd' i Adam Price
Mae cynghorydd Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin wedi dweud ei fod yn "siomedig" i weld Adam Price yn camu i lawr fel arweinydd Plaid Cymru, ond fod hynny'n "anochel" yn sgil y datblygiadau diweddar.
Daeth ymddiswyddiad Mr Price yn dilyn adolygiad damniol a ddaeth i'r casgliad bod diwylliant o "aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth" o fewn y blaid.
Ond dywedodd Alun Lenny fod carfan o fewn y blaid "sydd ddim wedi bod y fwya' cefnogol i Adam Price ers tro byd", ac mai "mater o amser" oedd hi felly ar ôl cyhoeddi'r adroddiad nes y byddai'n gadael.