'Gwna di'n siŵr bod ti'n codi arian yn fy enw i'

Mae chwaer dyn o Sir Gâr a fu farw o ganser y llynedd wedi dweud y byddai wedi bod "yn browd iawn" o'r swm sydd wedi ei gasglu er cof amdano i helpu'r hosbis a ofalodd amdano yn ei ddyddiau olaf.

Roedd David Lewis, 54, yn ei ddagrau, yn ôl ei chwaer Annmarie Thomas, pan welodd "y cyfleusterau a'r ardd hyfryd" yn Hosbis Tŷ Bryngwyn, Llanelli.

Ac fe ofynnodd iddi i barhau i godi arian dros yr hosbis wedi ei farwolaeth. Erbyn hyn maen nhw wedi codi bron i £17,000 yn ei enw.

Fe rannodd Annmarie ei phrofiad wrth i'r elusen NHS Charities Together, sy'n cynrychioli dros 230 o elusennau'r GIG ar draws y DU, ddatgelu bod mwy o arian nag erioed wedi ei godi i'w cefnogi yn ystod y pandemig.